Yoga (Elinore Lewis)
Dydd Llun 11.30am-12.30pm
£7 i'w dalu ar y diwrnod
.png)
(Dewch a'ch mat a'ch potel ddwr eich hun os gwelwch yn dda)
Mae'r dosbarth ioga o allu cymysg ac yn addas ar gyfer pob lefel.
Mae'n seiliedig ar Vinyasa – i gynhesu'r corff trwy symudiadau a gwella'r anadlu.
Danfonwch neges at Ellie i fwcio lle ar:
Mobile: 07419 296648
Yoga (Jo Dando)
Llun 8.00 - 9.00pm
£6 y sesiwn

Rwy'n cyflwyno ymarfer yoga er llesiant; ymarfer anadlu ac ymlacio dan reolaeth sy'n eich helpu i roi rhywbeth cynhaliol nol i chi'ch hun.
Bydd yr ymarferion yma yn eich helpu i leihau pryder a phwysedd corfforol a meddyliol. Byddwch yn dysgu dulliau all eich helpu i deimlo'n gartrefol yn eich corff ac yn dawelach eich meddwl.
Yoga (Jo Morgan)
Mawrth 7.15 - 8.15pm
Mercher 11.30am - 12.30pm
£6 y sesiwn

Mae'r dosbarth yoga Hatha modern ac ymlacio yma yn addas i bob gallu gan ein bod yn dysgu opsiynnau isel ac uchel. Bydd y safleoedd yoga/asanas yn rhoi egni i chi ac yn gwella eich cryfder, cydbwysedd, ystwythder ac yn helpu eich iechyd meddwl. Mae'n ddosbarth cyfeillgar iawn sy'n croesawu aelodau newydd.
Ffon – 07906 812063
Yoga (Linda Stone)
Mercher 6.30–7.30pm
£6 y sesiwn

Rwyf wedi bod yn gwneud yoga ers 22 mlynedd ac yn dysgu fy nosbarth 'hatha yoga flow' am dros 6 mlynedd. Mae fy nosbarth yn dechrau trwy gynhesu deinamig i gyfeiliant cerddoriaeth hyfryd, yn symud i ymarfer ar ein traed ac yn parhau gyda gwaith llawr, o opsiynnau hawdd i rai mwy anodd, felly yn addas i bawb, ac yn gorffen gydag ymlacio cysurlon.
Cysylltwch: Ffon 07908 676001