Rheolwr Busnes
Canolfan y Glowyr Caerffili ar gyfer y Gymuned
Chwefror 2024
LLEOLIAD - Canolfan y Glowyr Caerffili
STATUS - Cyfnod penodol 2.5 blynedd gyda'r nod o ymestyn
HOURS - 30 awr yr wythnos
WORK PATTERN - Oriau swyddfa gyda gwaith gyda'r nos/penwythnos i gefnogi cyfarfodydd
SALARY - £31,500 pro rata
CEFNDIR
Sefydlwyd Canolfan y Glowyr Caerffili i'r Gymuned yn wreiddiol yn 2008 i achub yr hen ysbyty rhag cael ei ddymchwel ac i roi bywyd newydd iddo.
Ei chenhadaeth yw cefnogi lles ein cymuned, dathlu ein treftadaeth gymdeithasol a gwerthfawrogi ein hamgylchedd.
Dros y 10 mlynedd diwethaf adferwyd yr adeilad ar gost o £2.4 miliwn i greu 10 ystafell gymunedol, Hyb Llesiant o 8 micro-fusnes, gofodau allanol a gardd newid hinsawdd.
Mae'r staff cyflogedig o 10 (cyfwerth â 4 amser llawn) a 90 o wirfoddolwyr yn darparu gweithgareddau drwy gydol yr wythnos.
Mae gan y prosiect drosiant o tua £140,000 y flwyddyn. Mae ei incwm yn deillio o logi ystafelloedd, codi arian a phrosiectau. Mae prosiectau’n cwmpasu gweithgareddau ar gyfer pobl hŷn ac iau, mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd, y newid yn yr hinsawdd a datblygiad cynaliadwy, costau byw, a threftadaeth. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau tymhorol a digwyddiadau codi arian, yn darparu gofod i gorau ymarfer ac yn rhedeg dosbarthiadau Cymraeg, Sbaeneg, yoga, llythrennedd a dawns.
Rydym yn canolbwyntio ar weithgareddau llesiant sy'n cefnogi gwirfoddoli, cydweithio, gweithio mewn partneriaeth a chefnogi hunangymorth. Ein hethos yw cofleidio’r Gymraeg, parchu unigoliaeth, diogelu cyfleoedd i bawb beth bynnag fo’u gallu, a mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Gwnaeth Covid inni gydnabod pwysigrwydd ein hamgylchedd a’r angen am ddyfodol cynaliadwy.
Derbyniodd yr ymddiriedolaeth Arian Loteri 3 blynedd yn 2023 i adeiladu ar ein darpariaeth bresennol a datblygu gwasanaethau a fydd yn gwella cynaliadwyedd a gwytnwch ein sefydliad a’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu. Rydym yn bwriadu defnyddio’r cyllid hwn i gyflogi Rheolwr Busnes 30 awr yr wythnos, Rheolwr Canolfan 30 awr yr wythnos, Swyddog Dyfodol Cynaliadwy 12 awr yr wythnos a 10 awr yr wythnos o swydd Cydlynydd Gwirfoddolwyr.
HOFFECH CHI FYND A'R GLOWYR YMLAEN I GENHEDLAETH NEWYDD?
Rydym yn bwriadu cyflogi Rheolwr Busnes newydd i’n helpu i gyflawni ein hagenda strategol – gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i gyflawni llesiant, cydlyniant cymunedol, mynd i’r afael â'r newid yn yr hinsawdd, a bwrw ymlaen â’n mentrau diogelwch bwyd ac arlwyo ein hunain. Rydym am adeiladu ar ein darpariaeth bresennol a datblygu gwasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael i'r gymuned. Mae hyn yn cynnwys gwneud y defnydd gorau o’n cyfleusterau arlwyo, ehangu ein gardd newid hinsawdd a datblygu cyfleusterau gweithdy er budd grwpiau cymunedol.
Bydd y Rheolwr Busnes yn rhoi adroddiad i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a bydd y Cadeirydd/ymddiriedolwr arall yn rheolwr llinell arno/i.
CYFRIFOLDEBAU
Cynllunio Strategol
-
Cofleidio ein cynlluniau strategol a gweithredol a chyfrannu at ddatblygiad y rhain yn flynyddol
-
Sicrhau bod llais y gymuned yn cael ei adlewyrchu yn yr hyn a wnawn
-
Adrodd i gyfarfodydd bwrdd a threfnu diwrnodau cynllunio tîm
-
Cefnogi llywodraethu effeithiol
-
Datblygu cynllun ariannu ar gyfer twf newydd yn y ganolfan
-
Sicrhau bod ein cynlluniau a’n gweithgareddau yn cael eu cyflawni mewn ffordd gynaliadwy
Datblygu prosiect
-
Rheoli cyllidebau prosiect a chraidd gyda chefnogaeth ein Swyddfa Gyllid a chadw at weithdrefnau ariannol y cwmni
-
Drafftio a chynnal polisïau ar gyfer y sefydliad cyfan i danategu dyletswyddau cyfreithiol yr Ymddiriedolaeth
-
Sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflwyno'n effeithiol, eu monitro a'u gwerthuso a rheoli newid wrth gyflawni prosiectau
-
Datblygu meysydd twf newydd a dulliau newydd o gyflawni prosiectau
-
Cyflawni prosiect Ein Dyfodol Cynaliadwy gyda chefnogaeth y Swyddog Prosiect Dyfodol Cynaliadwy rhan amser
-
Darparu gweithgareddau cyfreithiol fforddiadwy a hygyrch priodol sy’n sail i strategaethau ehangach y llywodraeth ar gyfer ynysu, tlodi ac allgáu
-
Gweithio gydag arweinwyr prosiectau eraill
-
Sicrhau codi arian digonol ac effeithiol ar gyfer prosiectau a arweinir gan y gymuned
-
Gweithredu cynllun busnes y gegin / ystafell ddigwyddiadau gan gynnwys cynhyrchu ffynonellau cyllid newydd
-
Paratoi ceisiadau am gyllid ar gyfer y sefydliad cyfan
Cyfathrebu ac arweinyddiaeth
-
Ysgogi ac arwain y staff cyflogedig a'r gwirfoddolwyr
-
Cyfrifoldeb dros gyflwyno ymgyrchoedd cyfathrebu, cyfryngau cymdeithasol a marchnata prosiectau gyda chefnogaeth ein Swyddog Marchnata
-
Datblygu cynllun hyfforddi ar gyfer staff a gwirfoddolwyr a meithrin capasiti cymunedol Datblygu a chynnal gwaith partneriaeth
-
Cefnogi strategaeth ar gyfer gwirfoddoli
-
Bod yn gyswllt effeithiol rhwng y bwrdd, y tîm cyflogedig, preswylwyr, hwyluswyr a rhanddeiliaid eraill
-
Sicrhau perthynas gadarnhaol gyda’r gymuned leol
-
Arwain y gwaith o gydlynu a chyflwyno digwyddiadau gyda chefnogaeth rheolwr y ganolfan a'r tîm prosiect
-
Cadw at bolisïau a gweithdrefnau y cytunwyd arnynt gan gynnwys Iechyd a Diogelwch, Diogelu, Cydraddoldeb, yr Iaith Gymraeg, Amgylchedd Cynaliadwy, Cyllid
-
Sicrhau cydymffurfiaeth â GDPR a’r Ddeddf Diogelu Data
YR YMGEISYDD DELFRYDOL
-
Lleol gydag ymrwymiad i'n cymuned neu'r cymoedd cyfagos
-
Profiad rhyngbersonol, rhwydweithio, sgiliau partneriaeth, chwaraewr tîm da
-
Gallu profedig i weithio ar eich menter eich hun a blaenoriaethu llwythi gwaith
-
Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da
-
Y gallu i gyfathrebu â phobl o bob cefndir
-
Sgiliau gweinyddu a threfnu cryf
-
Cymhwyster/gwybodaeth amlwg o ddatblygiad busnes
-
Profiad o weithio gyda / cyfrannu at reoli / cyflawni prosiectau cymunedol
-
Profiad o weithio yn y sector gwirfoddol a gweithio gydag ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr
-
Profiad o farchnata / marchnata cymdeithasol,
-
Profiad o ymgynghori a grymuso cymunedol
-
Profiad o lunio polisiau, ysgrifennu adroddiadau, cadw cofnodion, cylchredeg gwybodaeth, a chymhwyso offer monitro
-
Profiad o gael a rheoli cyllid prosiect,
-
Gwybodaeth ymarferol o becynnau Microsoft
-
Profiad o reoli staff
-
Ymrwymiad i arfer da Diogelu (bydd angen gwiriad DBS)
-
Ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy, cefnogi'r iaith Gymraeg, treftadaeth leol, cynhwysiant cymdeithasol a chyfleoedd cyfartal.
PAM GWEITHIO I GANOLFAN Y GLOWYR CAERFFILI?
-
Rydym yn cefnogi'n staff i gael cydbwysedd hapus rhwng bywyd a gwaith gan weithio'n hyblyg lle bo modd
-
Cyfleoedd hyfforddi mewnol ac allanol
-
Bod yn rhan o daith gyda thîm cyfeillgar a chefnogol